Tarian o ddyluniad y faner genedlaethol a gynhelir gan ddau orycs yw arfbais Namibia. Ar ben y darian mae pysgeryr Affrica. Saif y cynheiliaid ar dwyn tywod gyda phlanhigyn Welwitschia i gynrychioli Diffeithwch Namib, ac oddi tanddo mae sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Unity, Liberty, Justice.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search